Yn ein blog diwethaf canolbwyntiwyd ar gasglu samplau o gŵn gleision yn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau yn ystod tymor maes 2025 ar gyfer ein prosiect ‘Ble mae cŵn gleision yn paru ac yn geni?’. Unwaith y bydd ein samplau wedi’u casglu, sut ydym ni’n eu defnyddio i ddeall a yw cŵn gleision yn defnyddio Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau i baru neu eni?
Ein prif nod yn 2025 (ochr yn ochr â thagio siarcod â throsglwyddyddion acwstig i ymchwilio i symudiadau a’r defnydd o gynefinoedd) oedd casglu samplau gwaed o’r cŵn gleision er mwyn eu dadansoddi i fesur crynodiadau’r hormon atgenhedlu. Fodd bynnag, mae cael gafael ar samplau gan siarc tra ar gwch ym Môr Iwerddon a’u trosglwyddo i labordy i’w dadansoddi yn fwy anodd nag y mae’n swnio – mae angen cydlynu’n ofalus, prosesu a storio samplau, a chydweithio ar draws sawl sefydliad!
Rydym yn casglu samplau bach o waed (~2-3 mL) o’r ci glas trwy’r wythïen gynffonnol sy’n rhedeg ar hyd yr asgwrn cefn. Unwaith y bydd y gwaed wedi’i gasglu, caiff ei drosglwyddo ar unwaith i diwb sy’n cael ei drin ymlaen llaw â heparin i atal gwaed rhag ceulo yn y tiwb samplu. Yna rydym yn storio samplau ar rew nes i ni ddychwelyd i’r lan ar ddiwedd y teithiau pysgota.
Unwaith y byddwn yn ôl yn ein canolfan, caiff y samplau eu prosesu i’w storio yn yr hirdymor. Mae hyn yn cynnwys mesur hematocrit (canran cyfaint y gwaed sy’n cynnwys celloedd coch y gwaed) cyn allgyrchu gwaed i wahanu celloedd coch y gwaed a chelloedd gwyn y gwaed o’r plasma. Yna rydym yn rhewi’r samplau ar -80 °C tan ddiwedd y tymor yn y maes pan fyddwn yn eu hanfon i’w dadansoddi gan Dr Kirsten Wilson, arbenigwr profion biomoleciwlaidd ym Mhrifysgol Caeredin.
Unwaith y bydd samplau’n cyrraedd Caeredin, mae Kirsten yn defnyddio profion ELISA i ddadansoddi lefelau 17β-estradiol, testosteron, progesteron, a hormon thyroid mewn plasma o’r ci glas. Yn ystod y broses, ychwanegir ychydig bach o blasma at bant y microplât sy’n cynnwys gwrthgyrff sy’n rhwymo i’r hormon penodol. Mae faint o wrthgyrff sydd wedi’u rhwymo o’u cymharu â’r rhai sy’n rhydd yn dibynnu ar grynodiad yr hormon yn y sampl.

Ar y chwith: Ychwanegir sampl plasma ac adweithydd at bantiau mewn microplât. Ar y dde: caiff y plât ei ddeori ar 28 °C am ddwy awr i ganiatáu i’r hormonau a’r antigenau sy’n gysylltiedig ag ensymau rwymo’n gystadleuol. Lluniau © Kirsten Wilson
Yna ychwanegir swbstrad di-liw at y plât sydd, dros amser, yn adweithio â’r gwrthgyrff sydd wedi’u rhwymo yn y plât i gynhyrchu lliw glas. Mae dwyster y lliw a gynhyrchir gan yr adwaith yn dibynnu ar nifer y gwrthgyrff sy’n rhwym i’r hormonau – sydd hefyd yn gysylltiedig â chrynodiad yr hormon yn y sampl wreiddiol. Ar ddiwedd y cyfnod deori mae’r adwaith yn cael ei atal gan droi’r lliw o las i felyn.

Ar y chwith: Ar ôl ei olchi, ychwanegir swbstrad (o’r enw TMB). Mae hwn yn ddi-liw ond mae’n troi’n las dros amser. Mae dwyster y lliw yn dibynnu ar faint o hormon sy’n bresennol yn y sampl. Ar y dde: Ar ôl 10 munud, ychwanegir toddiant ‘stop’ asidig sy’n gwneud i’r lliw droi’n felyn ar unwaith. Lluniau © Kirsten Wilson
Yn olaf, gellir mesur trosglwyddiad golau ar donfedd benodol drwy’r sampl. Bydd samplau â lliw cryfach yn caniatáu llai o olau drwyddynt, sy’n caniatáu i Kirsten fesur lefelau’r hormonau o’n samplau trwy gymharu trosglwyddiad golau trwy ein samplau (sydd â lefelau anhysbys hormonau) â throsglwyddiad golau trwy safonau lle mae crynodiad hysbys o hormon yn cael ei ychwanegu.

Ar y chwith: Mae trosglwyddiad golau trwy bob twll yn y microplât yn cael ei fesur ar sbectromedr plât. Ar y dde: Gan ddefnyddio rheolyddion crynodiad hormonau hysbys (sgwariau gwyrdd) crëir cromlin safonol (llinell las) y gellir ei defnyddio wedyn i gyfrifo’r crynodiadau hormonau ym mhob sampl (cylchoedd pinc). Lluniau © Kisten Wilson
Nawr bod gennym y data hwn, gallwn ddechrau darganfod a yw’r cŵn gleision a samplwyd gennym fisoedd ynghynt yn dangos arwyddion eu bod yn weithgar o ran atgenhedlu neu’n feichiog pan gawsant eu dal!